Cymraeg

Once upon a time in a radio shop in Rhyl
Sgwrs yn Saesneg gan David Crawford
Nos Wener, 21ain Tachwedd 2025, 7:00 PM
Mae Amgueddfa Gwefr heb Wifrau yn cynnwys casgliad o hen setiau radio i’r cartref, a gynhyrchwyd yn bennaf gan gwmnïau Prydeinig adnabyddus. Cynhyrchwyd un o’r hen setiau radio yng nghanol y 1920au gan “Foulkes Radio Rhyl”.

Tan yn ddiweddar, doedd gan yr amgueddfa ddim gwybodaeth am y radio na phwy a’i wnaeth, heblaw am gerdyn busnes yn sôn am y perchnogion, E.G. Foulkes a C.J. Foulkes, o 27 Stryd Fawr, Y Rhyl, siop sydd bellach yn eiddo i Boots yr Optegydd. Yn ddiweddar, newidiodd hyn i gyd pan dderbyniodd yr amgueddfa neges gan Jerry Foulkes, ŵyr Eric Foulkes (E.G. Foukes). Mae Jerry Foulkes yn gynhyrchydd teledu ac yn gyn-gyflwynydd ITV i Blant, a gofynnodd a fyddai gan yr amgueddfa ddiddordeb yn hanes Radio Foulkes yn Y Rhyl o 1922 i 1937. Roedd yr amgueddfa’n ddiolchgar iawn i dderbyn nifer sylweddol o ffotograffau o Eric, y siop, a’r amrywiol weithgareddau oedd yn digwydd ar y pryd, yn ogystal â llawer iawn o wybodaeth berthnasol.

Stori “Foulkes Radio Rhyl, specialists in Radio, Television and Sound Amplification” a’u perchennog mentrus ac amatur radio, Eric Foulkes, yw’r ddarlith hon.

Cliciwch ar y botwm i gofrestru