Cymraeg


A Liverpool Connection – Toys, Trains and Wireless Sets
Sgwrs yn Saesneg gan Steve Harris
Nos Wener, 23ain Gorffennaf 2021, 7:00 YH
Nid yw Lerpwl yn arfer cael ei chysylltu â chynhyrchu setiau radio yn y 1920au a’r 1930au, ond roedd ardal ‘Old Swan’ yn gartref i nid yn unig un ond dau weithgynhyrchwr cydrannau radio oedd â chysylltiadau diddorol, o drenau clocwaith i locomotifau trydan. Mae’r cyflwyniad yma yn dod â gweithgynhyrchwyr Lerpwl Hornby, Lotus a Wingrove a Rogers ynghyd.

Mae Steve Harris, o siop Dechnoleg Hynafol “On The Air”, ac yn gyn – Gyfarwyddwr i’r Amgueddfa Ddarlledu yng Nghaer, wedi bod yn gysylltiedig â Gwefr heb Wifrau am nifer o flynyddoedd.

Cliciwch ar y botwm cwmwl i gofrestru.


Herio Synnwyr – Gwawr Gwrtheyrn
Sgwrs yn Cymraeg gan Dr Carl Clowes
Nos Wener, 20fed Awst 2021, 7:00 YH
Ar ddechrau’r ‘70au roedd Bro’r Eifl yn dioddef yn enbyd o ddiboblogi yn sgil cau chwareli ithfaen yr ardal. Fel canlyniad roedd hyder y fro yn gwegian a’r angen am waith newydd yn amlwg. Gyda dros 90% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg, un o ardaloedd Cymreiciaf Cymru, beth oedd yn bosib’ wneud felly i wirdroi y dirywiad, sicrhau ffyniant i’r ardal a llwyddiant i’r iaith?

Roedd pentref Nant Gwrtheyrn ar begwn eithaf y dirywiad – yn bentref gwag oedd wedi colli eu poblogaeth yn gyfan gwbl, gyda’r teulu olaf yn symud allan yn 1959. Ond, ym meddwl Dr Carl, roedd y Nant yn cynnig cyfle hefyd. O gyplysu’r angen am waith ar y naill law ac ymateb i’r alwad am hybu’r iaith, onid oedd’na modd i defnyddio’r hen bentref dadfaeledig i greu Canolfan Iaith fyddai’n cyflawni’r ddau nod?

Bron yn 50 mlynedd ymlaen, gydag ymdrechion y genedl cyfan, dyna beth a ddigwyddodd a cewch gyfle i gael cipolwg ar ddatblygiad rhyfeddol Nant Gwrtheyrn gan y sylfaenydd Dr Carl Clowes.

Cliciwch ar y botwm cwmwl i gofrestru.


Mynydd and Monadh – Echoes of Cymraeg in Scotland’s Gaelic Landscape
Sgwrs yn Saesneg gan Roddy Maclean
Nos Wener, 24ain Medi 2021, 7:00 YH
Mae Roddy Maclean yn archwilio sut mae deall geiriau Celtaidd cytras a threftadaeth hynafol Gelteg P yn gallu gwneud Alba/Yr Alban yn edrych ychydig yn fwy cydnabyddus i bobol o Gymru.

Cliciwch ar y botwm cwmwl i gofrestru.


%d bloggers like this: